Swyddog Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (Gwella Data)

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent
Closing date: 
Monday, June 13, 2022
Contract
35 awr yr wythnos
Salary
£24,600 y flwyddyn
Location
De Cymru

Summary

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent (GGAT) Cyf yn gwmni elusennol sy’n gwneud gwaith cynghori, archaeolegol ac addysgu’r cyhoedd ar gyfer amrywiaeth eang o sefydliadau (gweler www.ggat.org.uk). Mae’r Ymddiriedolaeth wedi cofrestru gyda Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr.

Mae'r Ymddiriedolaeth wedi'i sefydlu gydag amcan budd cyhoeddus clir.

Rydym yn chwilio am archaeolegydd profiadol i ymuno â’n tîm Cofnod Amgylchedd Hanesyddol, y mae ei waith yn cael ei gefnogi’n arbennig gan Lywodraeth Cymru trwy Cadw a’r deuddeg Awdurdod Unedol yn Ne Cymru.

Y swydd

Fel Swyddog Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (Gwella Data) byddwch yn chwarae rôl mewn sicrhau bod Cofnod Amgylchedd Hanesyddol GGAT yn cael ei wella, ei ddiweddaru, ei gynnal a’i hyrwyddo’n effeithiol.

Prif ddyletswydd y swydd hon yw gwella cynnwys ar-lein y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH).  Byddwch yn cefnogi'r CAH a'r Rheolwr Gwybodaeth trwy wneud gwaith dadansoddi pennawd o'r wybodaeth sy'n dod i mewn o amrywiaeth o ffynonellau, gan ddefnyddio'ch gwybodaeth, eich profiad a'ch dealltwriaeth o'r sectorau archaeolegol masnachol ac anfasnachol i flaenoriaethu eu mewnbwn i'r CAH.  Byddwch yn creu cofnodion CAH ac yn gwella rhai sydd eisoes yn bodoli, gan arddangos y gallu i gyflwyno gwybodaeth fanwl gywir a chraff sy’n berthnasol ac yn llawn gwybodaeth i ddefnyddwyr CAH ar bob lefel.  Byddwch hefyd yn gweithio i feithrin cysylltiadau gyda defnyddwyr HER i sicrhau bod gwybodaeth sy’n dod i mewn yn cael ei chofnodi’n amserol.

Yn ogystal, mae’r swydd hefyd yn cynnwys cysylltu ag aelodau eraill o’r tîm Stiwardiaeth a’r Ymddiriedolaeth yn ehangach a’u cynorthwyo; cynorthwyo a gweithio gyda gwirfoddolwyr; rhoi gwybodaeth i ymholwyr proffesiynol ac amhroffesiynol, a dyletswyddau eraill y bernir eu bod yn berthnasol i’r swydd.

Er bod y swydd hon yn swydd lawn amser, efallai y bydd modd gweithredu ar sail rhannu swydd.

 

Deiliad y swydd

Byddwch yn aelod o Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (achrediad cyswllt) ac felly yn meddu ar y cymwyseddau ardystiedig o achrediad proffesiynol o’r fath.

Er y gallai fod gennych gefndir o weithio mewn cofnod amgylchedd hanesyddol, byddai profiad mewn swydd cynghori, ymarfer neu addysg yn gysylltiedig ag archaeoleg hefyd yn berthnasol.

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu gweithio o dan amrywiol fath o bwysau a gallu cyfathrebu’n glir. Bydd angen i chi allu bod yn gyson wrth greu a gwella data.

Bydd angen gwybodaeth ymarferol dda am gymwysiadau meddalwedd MS Office a GIS a thrwydded yrru lân. Mae gwybodaeth a gwerthfawrogiad o'r Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymru yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

Cydnabyddiaeth a buddion

Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith proffesiynol sy'n canolbwyntio ar lwyddiant a chyflawniad ar y cyd a hyrwyddo datblygiad personol a phroffesiynol.  Yn ogystal â’r cyflog, mae’r pecyn tâl yn cynnwys pump diwrnod ar hugain o wyliau personol a dau ddiwrnod o wyliau braint yn ogystal â Gwyliau Banc, cyfraniad cyflogwr o 6% at bensiwn, cyfraniad at gostau aelodaeth CIfA ac adnewyddu cardiau CSCS.

Ceisiadau

Gwahoddir ymgeiswyr i gofrestru eu diddordeb drwy e-bostio enquiries@ggat.org.uk gyda'r cyfeirnod Swyddog CAH yn y blwch pwnc a rhoi rhywfaint o fanylion cyswllt yng nghorff yr e-bost.  Bydd ymgeiswyr sy'n cofrestru eu diddordeb yn cael y swydd ddisgrifiad llawn, manylion pellach am sut i wneud cais, a hysbysiadau preifatrwydd data.

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent Cyf. yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned ac mae wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal. Rhaid i bob ymgeisydd feddu ar yr hawl i weithio yn y DU heb gyfyngiadau. Bydd angen prawf o hunaniaeth a chymhwyster i weithio yn y DU cyn i gyflogaeth ddechrau.

CIfA Registered Organisation logoYmddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent is a CIfA Registered Organisation