Archaeolegydd Gwasanaethau Cynghori
Contract | Swydd lawn amser, parhaol: 37 awr yr wythnos (rhoddir ystyriaeth i rannu swydd) |
Salary | £32,619 y flwyddyn |
Location | Gogledd Cymru |
Summary
Mae Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru yn sefydliad cenedlaethol newydd sydd â'i wreiddiau'n ddwfn yn yr ardal. Wedi'i lleoli ym Mangor yng ngogledd-orllewin Cymru, mae cangen Gwynedd yn un o bedair swyddfa ranbarthol sydd ar y cyd yn darparu gwasanaeth archaeolegol cynhwysfawr ledled Cymru. Mae Heneb yn gwmni cyfyngedig ac yn Elusen Gofrestredig, sydd â'r nod o atgyfnerthu addysg archaeolegol y cyhoedd. Yn sefydliad annibynnol, mae wedi ymrwymo i warchod, archwilio, cofnodi, deall, a hyrwyddo archaeoleg ac amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae Heneb yn Sefydliad Cofrestredig gyda Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr.
Rydym yn awyddus i benodi archaeolegydd profiadol i ymuno ag adran Gwasanaethau Cynghori gogledd-orllewin Cymru. Cefnogir yr adran gan Lywodraeth Cymru drwy Cadw a chan bedwar awdurdod cynllunio lleol y rhanbarth, i weithredu dros yr awdurdodau cynllunio lleol fel y cynghorwyr rheoli treftadaeth a chynllunio archaeolegol.
Y swydd
Yn rhan o dîm bychan, bydd gennych rôl hollbwysig i'w chwarae yn sicrhau bod amgylchedd hanesyddol gogledd-orllewin Cymru yn cael ei reoli a'i hyrwyddo'n effeithiol. Mae'n swydd heriol ac amrywiol mewn ardal sy'n adnabyddus am gyfoeth ac amrywiaeth ei harchaeoleg. Mae'r gwaith o ddydd i ddydd yn bennaf yn cynnwys cynghori ar lefel gwaith achos: Adolygu cynigion ar gyfer newid defnydd adeiladau neu dir, oddi mewn ac oddi allan i'r system gynllunio a chyfundrefnau rheoliadol eraill, gan gyfeirio at gynllunio a deddfwriaeth berthnasol, ac amrywiaeth eang o adnoddau gwybodaeth. Byddwch yn gyfrifol am adnabod sefyllfaoedd lle mae ymyriadau archaeolegol yn briodol, pennu cwmpas yr ymateb archaeolegol sy'n ofynnol, monitro gwaith dilynol a sicrhau y cynhelir safonau proffesiynol hyd ddiwedd y gwaith.
Deiliad y swydd
Rydym yn croesawu ceisiadau gan archaeolegwyr sy'n awyddus i ddechrau neu ddatblygu gyrfa mewn archaeoleg guradurol. Disgwylir i ymgeiswyr fod â phrofiad o weithio mewn amgylchedd archaeolegol proffesiynol a chael dealltwriaeth o'r fframweithiau rheoliadol sy'n cynnal archaeoleg a lywir gan ddatblygiad yn y DU. Er bod gennych brofiad cynghori neu ymgynghori blaenorol efallai, byddai cefndir mewn gwaith maes archaeolegol yn berthnasol yn ogystal. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y ddawn a'r agwedd briodol a chaiff ei gefnogi gan ein tîm cyfeillgar a phroffesiynol wrth iddo ddatblygu yn y rôl.
Bydd angen gwybodaeth ymarferol dda am gymwysiadau meddalwedd MS Office a GIS arnoch, ac mae'n ofynnol bod gennych drwydded yrru lawn er mwyn eich galluogi i deithio i ymweliadau safle a chyfarfodydd eraill. Gan mai Cymraeg yw iaith gyntaf nifer fawr o bobl yr ardal, mae gwybodaeth a gwerthfawrogiad o'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn hynod ddymunol.
Am ragor o wybodaeth a manylion am sut i ymgeisio, ewch i’n gwefan www.heneb.org.uk.