Rheolwr Datblygu Busnes (De-ddwyrain Cymru)
Contract | Tymor Penodol (2 flynedd) |
Salary | £35,000 y flwyddyn |
Location | De-ddwyrain Cymru |
Summary
Mae Heneb yn sefydliad elusennol sydd wedi ymrwymo i warchod a hyrwyddo treftadaeth archaeolegol gyfoethog Cymru.
Bydd y Rheolwr Datblygu Busnes yn gyfrifol am wthio ac ehangu gwasanaethau prosiectau archaeolegol Heneb yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae'r rôl hon yn cynnwys nodi cyfleoedd busnes newydd, datblygu partneriaethau â datblygwyr, penseiri ac arweinwyr y diwydiant adeiladu a chynyddu refeniw trwy gontractau prosiectau archaeolegol.
Bydd deiliad y swydd yn gallu gweithio’n hybrid trwy gymysgedd o weithio gartref a gweithio mewn swyddfa yn unrhyw un o’n swyddfeydd yn Ne-ddwyrain Cymru (Baglan neu Gasnewydd), a bydd angen teithio ledled y rhanbarth.
Gwneud Cais
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu eich addasrwydd ar gyfer y rôl at y Pennaeth Archaeoleg, John Roberts john.roberts@heneb.org.uk erbyn 14 Chwefror 2025.
Mae Heneb wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn annog ceisiadau gan bob unigolyn cymwys.