Swyddog Allgymorth

Heneb logo
Posted on
Heneb
Contract
Parhaol
Salary
£30,451 y flwyddyn pro rata (20 awr yr wythnos - £16,460 pro-rata)
Location
Baglan neu Sain Ffagan – yn gwasanaethu de-ddwyrain Cymru
Deadline

Gwybodaeth am Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru

Mae Heneb yn sefydliad elusennol sydd wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo treftadaeth archaeolegol gyfoethog Cymru. Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i addysg, ymgysylltiad a’r cymunedau amrywiol rydym ni’n eu gwasanaethu, rydym ni’n chwilio am swyddog allgymorth ymroddedig a llawn cymhelliant ar gyfer de ddwyrain Cymru.

 

Pwrpas y Swydd

Bydd y swyddog yn gweithio fel rhan o dîm allgymorth cenedlaethol i ddatblygu a churadu adnoddau dysgu ac allgymorth, a bydd yn gyfrifol am gysylltu unigolion, cymunedau a sefydliadau yn ne ddwyrain Cymru gydag archaeoleg a gwaith ehangach Heneb drwy nodi a darparu cyfleoedd cyfranogi ystyrlon sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a thargedau llesiant cenedlaethol. 

Bydd y swyddog yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau, a allai gynnwys cefnogi staff yr ymddiriedolaeth mewn cloddiadau archaeolegol, cydlynu gwirfoddolwyr a myfyrwyr profiad gwaith, rhannu gwybodaeth am brosiectau gyda'r cyhoedd ar ffurf arddangosfeydd gweledol, trin casgliadau a chyfryngau cymdeithasol, darparu gweithgareddau a gweithdai yn annibynnol mewn digwyddiadau fel cynadleddau, darlithoedd, teithiau cerdded, sgyrsiau, gwyliau a diwrnodau agored treftadaeth, a darparu gwasanaeth allgymorth ar-lein ac wyneb yn wyneb. 

Bydd y swyddog yn gweithio ar y cyd â’r tîm allgymorth cenedlaethol i sefydlu a chryfhau’r berthynas â’r sector dreftadaeth, archaeoleg a llesiant, gan nodi cyfleoedd partneriaeth a rhannu syniadau ar gyfer twf allgymorth masnachol, a chyfrannu at gynaliadwyedd cyffredinol cynnig allgymorth Heneb. 

 

Prif Gyfrifoldebau

Ymgysylltu â Rhanddeiliaid 

  • Cynnal a datblygu perthnasoedd gydag unigolion, cymunedau, sefydliadau a chontractwyr masnachol (yn achlysurol).
  • Defnyddio amrywiaeth o dechnegau ymgysylltu i gyrraedd cynulleidfa eang.
  • Sicrhau bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf am arferion gorau ym maes allgymorth er mwyn datblygu a darparu cyfleoedd archaeolegol cynhwysol a chyffrous, sydd ar flaen  y gad yn y sector, i amrywiaeth eang o bobl.
  • Cynhyrchu cynnwys diddorol ar gyfer y cyfryngau i hyrwyddo gwaith Heneb. 

 

Strategaeth a Chynllunio

  • Gweithio gyda’r Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Allgymorth a’r tîm allgymorth ehangach i ddatblygu gweithgareddau diddorol newydd sy’n hyrwyddo ac yn eiriol dros archaeoleg, yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi targedau llesiant cenedlaethol.
  • Gweithio gyda staff yr Ymddiriedolaeth i rannu syniadau a nodi cyfleoedd i wella’n gwasanaeth allgymorth.
  • Cwrdd yn rheolaidd â’r tîm allgymorth i wneud y gorau o amserlennu a chefnogi aelodau mewn rhanbarthau eraill pan fo angen. 

 

Adrodd a Gweinyddu

  • Cadw cofnodion digidol cywir o weithgareddau allgymorth.
  • Darparu diweddariadau anffurfiol yn rheolaidd mewn cyfarfodydd tîm ar ymgysylltu, heriau a chyfleoedd.
  • Cynhyrchu adroddiadau chwarterol ar gyfer rhanbarthau’r de-ddwyrain er mwyn sicrhau bod tîm arwain Heneb a’n prif gyllidwr, Cadw, yn ymwybodol o gynnydd a gweithgareddau.
  • Sicrhau y cydymffurfir â pholisïau Heneb, safonau perthnasol y diwydiant a deddfwriaeth yn yr holl weithgareddau, gan gynnwys cydymffurfio â GDPR, Cod Ymarfer Gorau Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr a chanllawiau llesiant a chyllido sectorau eraill.

 

Manyleb y Person

Cymwysterau a Phrofiad Hanfodol

  • Profiad amlwg o ddarparu allgymorth, yn y sector treftadaeth, archaeoleg neu amgueddfeydd yn ddelfrydol.
  • Hanes blaenorol amlwg o ymgysylltu'n llwyddiannus â rhanddeiliaid.
  • Dealltwriaeth gadarn o'r sector archaeoleg a'i rôl o ran meithrin iechyd a lles.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ynghyd â’r gallu i ymgysylltu’n effeithiol ag amrywiaeth o randdeiliaid ar-lein ac wyneb yn wyneb.
  • Sgiliau rheoli amser gwych, gyda’r gallu i weithio’n hyderus gydag unigolion a grwpiau mawr er mwyn darparu gweithgareddau ymgysylltu ymarferol. 

 

Cymwysterau a Phrofiad Dymunol 

  • Profiad o weithio ym maes treftadaeth, archaeoleg neu amgueddfeydd.
  • Profiad o reoli gwirfoddolwyr.
  • Profiad o ddatblygu a chyflwyno digwyddiadau cyfranogol mawr a bach fel gweithdai a chynadleddau.
  • Gradd berthnasol mewn treftadaeth, archaeoleg neu faes cysylltiedig.
  • Gallu siarad Cymraeg.
  • Trwydded yrru.

 

Cymwyseddau Allweddol

  • Creadigol, egnïol, dynamig a chynhwysol.
  • Yn gyfathrebwr da, yn onest ac â meddwl agored.
  • Yn llawn cymhelliant, gydag agwedd gwneud-gwahaniaeth a’r gallu i ymgysylltu â phobl drwy adrodd straeon, crefftau, casgliadau gweladwy a darlithoedd traddodiadol.
  • Gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm.
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser ardderchog.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Yn achlysurol bydd y rôl yn golygu gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Mae’r rôl hon yn golygu teithio cyson yn ne ddwyrain Cymru a’r cyffiniau, a bydd angen teithio i rannau eraill o Gymru yn achlysurol. 

Gan y bydd y swyddog yn gweithio’n rheolaidd â phlant ac oedolion agored i niwed, bydd angen archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon - bydd yr Ymddiriedolaeth yn trefnu ac yn talu am hyn. 

 

Sut mae Gwneud Cais

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol sy'n amlinellu pa mor addas ydych chi ar gyfer y swydd at HR@heneb.org.uk erbyn 28 Chwefror 2026.

Mae Heneb wedi ymrwymo i greu amgylchedd amrywiol ac mae’n falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal. Bydd pob ymgeisydd cymwys yn cael ei ystyried ar gyfer cyflogaeth heb ystyried hil, lliw, crefydd, rhywedd, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, tarddiad cenedlaethol, geneteg, anabledd, oedran neu statws cyn-filwr. Mae Heneb hefyd wedi ymrwymo i gydymffurfio â'r holl arferion cyflogaeth deg sy'n berthnasol i ddinasyddiaeth a statws mewnfudo. 

Os nad yw eich sgiliau'n cyfateb yn llawn i'n meini prawf ond eich bod yn dal i deimlo bod eich sgiliau’n cyd-fynd yn dda â’r rôl hon, cysylltwch â ni am drafodaeth anffurfiol gyda'r Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Allgymorth sef Zoe Arthurs ar 01938 532772.